Leo Varadkar ar ôl cael ei ddewis yn arweinydd Fine Gael neithiwr (llun: Brian Lawless/Gwifren PA)
Mae mab i fewnfudwr o India ar ei ffordd i gael ei ethol fel taoiseach newydd Iwerddon.

Cafodd Leo Varadkar ei ddewis yn arweinydd newydd Fine Gael neithiwr i olynu Enda Kenny.

Mae’n 38 oed, ac ef fydd taoiseach ieuengaf y wlad os bydd y Dáil yn ei ethol, fel sy’n debygol iawn yn sgil cytundeb rhwng y pleidiau yno, ar 13 Mehefin.

Mae hefyd yn torri tir newydd yn y ffaith ei fod wedi datgan ei fod yn hoyw yn ystod y refferendwm ar briodasau rhwng pobl o’r un rhyw yn y wlad ddwy flynedd yn ôl.

Ar ôl cael ei ethol yn arweinydd, soniodd Leo Varadkar am ei dad a deithiodd 5,000 o filltiroedd o India am gartref newydd yn Iwerddon.

“Mae pobl yn edrych ar Iwerddon ac yn gweld fod ei fab yn cael ei farnu yn ôl ei weithredoedd a’i gymeriad, nid yn ôl ei darddiad na’i hunaniaeth,” meddai.

“Mae hyn yn dangos nad oes unrhyw droedle i ragfarn yn y weriniaeth hon.”