Nigel Farage (llun: PA)
Mae cyn-arweinydd Ukip, Nigel Farage, wedi bachu ar y cyfle i fanteisio ar drafferthion yr ymgeisydd Ceidwadol a’i curodd yn etholiad cyffredinol 2015.
Mae’r Tori Craig Mackinlay yn wynebu achos llys ar gyhuddiadau’n ymwneud â gor-wario etholiadol yn ei frwydr yn erbyn Nigel Farage yn etholaeth De Thanet yng Nghaint.
Er hyn, mae’n parhau fel ymgeisyydd yn yr etholaeth, a hynny gyda chefnogaeth Theresa May, sy’n dadlau ei fod yn ddieuog hyd nes profir yn wahanol.
Mewn ymweliad â’r etholaeth heddiw, dywed Nigel Farage fod cyhoeddiad Gwasanaeth Erlyn y Goron yn golygu mai brwydr rhwng Llafur ac Ukip fydd hi yn Ne Thanet.
“Unwaith eto, mae Theresa May wedi bod yn annoeth,” meddai.
“Pam ar y ddaear fyddech chi’n gadael i rywun fynd ymlaen fel ymgeisydd Etholiad Cyffredinol pan oedd y cwmwl yma’n amlwg drosto? Fe fydd cwestiynau.”
Llwyddodd Craig Mackinlay i guro Nigel Farage gyda mwyafrif o 2,812 yno yn 2015.