Clwb Ifor Bach yng nghanol Womanby Street
Mae UK Music, y corff sy’n cynrychioli diwydiant cerddorol Prydain, wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch i ddiogelu stryd sy’n fwrlwm o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.
Mae’n dilyn pryder am ddyfodol Womanby Street, lle mae Clwb Ifor Bach a thafarnau a chlybiau eraill yn cynnal cerddoriaeth fyw yn gyson.
Ar ôl i un o sefydliadau allweddol y stryd, Dempsey’s, gau yn ddiweddar, mae ofnau y bydd yr ardal yn cael ei hail-ddatblygu.
Fe wnaeth grŵp achub Womanby Street, a gafodd ei ffurfio ym mis Mawrth, gyfarfod Michael Dugher, prif weithredwr UK Music, ddoe.
“Perfformio byw mewn gigs bach lleol yw ffynhonnell graidd y diwydiant cerddoriaeth, ac mae angen inni gweithredu i ddiogelu’r rhan bwysig yma o’r economi,” meddai.
“Lleoliadau fel hyn yw lle mae bandiau stadiwm y dyfodol yn dysgu eu crefft. Hebddyn nhw, rydym yn colli’r cysylltiad pwysig yma.
“Mae gan Womanby Street le arbennig yng nghalonnau ffans cerddorol yng Nghaerdydd ac ardal bell o’i gwmpas.”
Mae ymgyrch ddiogelu Womanby Street yn pwyso hefyd am i’r stryd gael ei chydnabod fel ardal o arwyddocâd diwylliannol i gerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yng nghynllun datblygu lleol Caerdydd.