(lun o wefan yr heddlu)
Yn dilyn pryder am droseddau’n ymwneud â chyllyll yn y dref, mae’r heddlu’n cynnal cyrch 24 awr o stopio a chwilio yn y Rhyl.
Fe fydd plismyn yn defnyddio pwerau o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Drefn Gyhoeddus i archwilio unigolion am arfau ymosodol gan gynnwys llafnau neu offer miniog.
Fe fydd y cyrch yn parhau tan 9 o’r gloch heno.
Meddai’r Arolygydd Alwyn Williams:
“Gall y defnydd o gyllyll neu arfau tebyg gael canlyniadau trychinebus ac mae angen atgoffa pobl ei bod yn drosedd ddifrifol cario pethau o’r fath.
“Ein nod yw rhwystro pobl rhag cario cyllyll, rhwystro unrhyw ddigwyddiad difrifol, a thawelu meddyliau pobl y Rhyl ein bod yn gweithredu’n gadarnhaol.
“Fe fyddwn yn gweithredu’n llym yn erbyn troseddwyr.”