Jeremy Corybyn (llun: PA)
Wrth ganmol ymgyrch “egnïol ac effeithiol” Jeremy Corbyn, mae’r papur newydd The Guardian wedi datgan ei gefnogaeth i’r blaid Lafur yn yr etholiad ddydd Iau nesaf.
Mewn erthygl olygyddol, dywedir bod Torïaid Theresa May yn anaddas ar gyfer llywodraethu oherwydd eu cyfuniad o bolisïau llymder economaidd a’u hagwedd at Brexit.
“Ar ôl galw etholiad dianghenraid nad oedd ar neb ei eisiau, mae Therea May wedi cyflwyno ymgyrch druenus o negyddol a chwbl ddiflas,” meddai’r papur.
“Ar y llaw arall, mae arweinydd Llafur wedi cael ymgyrch dda. Mae’n amlwg ei fod yn hoffi pobl ac mae ganddo ddiddordeb ynddynt.
“Mae’r ymgyrch wedi bod yn annisgwyl o strategol, gan fod yn seiliedig ar faniffesto sy’n symbylu pleidleiswyr craidd Llafur a phobl o dan 35 oed, sydd wedi ymateb â brwdfrydedd.”
Mae’r papur hefyd yn annog pleidleisio tactegol i’r Democratiaid a’r Gwyrddion:
“Ein dymuniad yw Llywodraeth Lafur, ond ein blaenoriaeth yw rhwystro’r Ceidwadwyr,” meddai.
Dywed hefyd y bydd erthygl olygyddol arall yn ymdrin â’r pleidiau yn yr Alban, ond nid yw’n cyfeirio o gwbl at Gymru.