Mae’r heddlu’n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol rhwng dau gar ar ffordd y B4278 rhwng Penrhiwfer a Tonyrefail gerllaw Pontypridd fore ddoe.
Fe fu farw gyrrwr 25 oed o ganlyniad i anafiadau angheuol mewn gwrthdrawiad rhwng ei gar Ford Fiesta du a Renault Kadjar du tua 11.35am.
Aed â gyrrwr y Renault, sef dynes 43 oed a’i merch fach deirblwydd oed, i’r ysbyty yn dioddef o anafiadau na chredir eu bod yn rhai difrifol.
Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a sylwodd ar y cerbydau’n mynd heibio cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 1700211232.