Aleksandar Vucic, yr arlywydd newydd
Mae Aleksandar Vucic wedi’i ordeinio yn arlywydd newydd Serbia, gan ddweud wrth ei gefnogwyr y bydd yn gweithio i gynnal heddwch a sadrwydd yng ngwledydd y Balcanau.

Fe ymddiswyddodd Mr Vucic yn ffurfiol heddiw o fod yn brif weinidog y wlad, wedi i’w blaid ennill yr etholiadau yn gyfforddus ym mis Ebrill eleni.

“Dw i’n addo i gadw’r heddwch ac i gynnal sefydlogrwydd, i warchod ac i feithrin dyfodol ein plant,” meddai Aleksandar Vucic wrth dorf o rai miloedd o bobol.

Ond roedd yna, yn ystod ei araith, rai pobol yng nghanol dinas Belgrad yn gwrthdaro gyda’r heddlu, wrth i’r plismyn geisio rhwystro protestwyr rhag cyrraedd adeilad y senedd.