Ethan Williams, Bwrdd Syr IfanC
Eleni mi fydd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da neges yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf erioed gan Fwrdd Syr IfanC – sef y fforwm sydd yn cynrychioli aelodau 16-26 yr Urdd – ac yn dod ar ffurf fideo.
Mae’r neges wedi’i chyfieithu i 17 iaith, gan gynnwys Rwsieg, Macedonian, Swahili ac Arabeg a thrwy ei gyflwyno fideo mae Ethan Williams yn gobeithio bydd y neges yn medru lledaenu’n bellach eleni.
“Gan fod e ar ffurf fideo mae’n haws i’w ddarparu a haws i’w rhannu ar draws y byd,” meddai Ethan Williams o Fwrdd Syr IfanC, fydd yn cyflwyno’r neges prynhawn heddiw.
“Mae gymaint bobol ifanc yn defnyddio Facebook, Trydar, Snapchat ac Instagram. Mae mor bwysig bod pobol yn medru gweld y fideo yn hawdd. Mae mor hawdd i’w rhannu ac mae’n cyrraedd miloedd o bobol mewn ychydig o glics.”
Llais pobol ifanc
Yn y neges mi fydd Bwrdd Syr IfanC yn galw bod pobol ifanc dros 16 oed yn cael bwrw pleidlais ac yn galw am gydraddoldeb hawliau i bobol ifanc.
“Ar ôl etholiad Brexit mae’n bwysicach nag erioed bod llais pobol ifanc yn cael ei gynrychioli,” meddai wrth golwg360.
“Un o’r pethau wnaethom ni drafod [wrth gynllunio’r neges] oedd y ffaith ein bod ni ddim wedi cael pleidlais dros fater mor bwysig. A beth wnaeth ddylanwadu arnom ni oedd y syniad bod angen mwy o lais ar bobol ifanc yn enwedig yng Nghymru.”