Mae dau Syriad wedi’u dwyn i’r ddalfa gan yr heddlu yn Sisili, a hynny ar amheuaeth o gynllwynio gweithred frawychol yn ystod cyfarfod arweinwyr gwledydd G7 ar yr ynys.

Fe gafodd y ddau eu harestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth yr Eidal, wedi iddyn nhw gyrraedd Sisili ar fferi o ynys Melita ym mhorthladd Pozzallo, 80 milltir o fan cyfarfod y gwleidyddion.

Yn ol yr awdurdodau, mae delweddau o hunanfomwyr yn gwisgo gwregysau wedi’u canfod ar ffonau symudol y ddau deithiwr, a’r gred ydi bod gan y ddau gysylltiadau a Libya.

Plentyn ydi un o’r ddau sydd wedi’u harestio, ac mae’r llall yn 25 oed. Mae’r ddau wedi bod ar gofrestr ffoaduriaid yr Eidal cyn hyn.