Emmanuel Macron - "Mae cofio Charles de Gaulle yn bwysig i bobol Ffrainc"
Mae gwleidyddion sydd fel arfer yn gwrthwynebu’i gilydd yn Ffrainc, wedi dod ynghyd i feirniadu’r rheiny sydd wedi fandaleiddio beddrod y cyn-arlywydd, Charles de Gaulle.

Mae’r heddlu yn chwilio am ddau o bobol mewn cysylltiad a’r digwyddiad yn Colombey-les-Deux, y pentref yn nwyrain Ffrainc lle’r oedd Charles de Gaulle yn byw, a lle cafodd ei gladdu.

Mae un dyn wedi’i ffilmio yn cnocio croes oddi ar ben y feddrod nos Sadwrn.

Mae arlywydd newydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi galw ar i’r feddrod gael ei thrwsio “cyn gynted a phosib”, gan ychwanegu bod cofio Charles de Gaulle yn bwysig i bobol y wlad.

Mae Marine Le Pen, gwrthwynebydd Emmanuel Macron yn yr etholiad am yr arlywyddiaeth, hefyd wedi beirniadu’r fandaliaeth.