Pab Ffransis
Mae’r Pab Ffransis wedi mynegi ei gefnogaeth i Gristnogion Coptig, yn dilyn ymosodiad ar fws oedd yn cario pererinion i fynachlog yn yr anialwch ddydd Gwener.

Fe gafodd y Cristnogion eu lladd, meddai, ” mewn gweithred arall o drais ymosodol” wedi iddyn nhw wrthod gwadu eu ffydd.

“Bydded i’r Arglwydd estyn croeso i’r tystion dewr hyn, y merthyron hyn, i’w heddwch, a pheri newid yng nghalonnau’r rhai treisgar,” meddai’r Pab.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfridoldeb am yr ymosodiad a ddigwyddodd ddydd Gwener, gan ladd 29 o bobol.

Ddydd Sadwrn, ar ymweliad a dinas Genoa, fe weddiodd Ffransis dros y dioddefwyr, gan resynu fod yna fwy o ferthyron yn ein cyfnod ni nag oedd yna yng nghyfnod Iesu Grist.