Mae o leiaf 100 o bobl wedi cael eu lladd mewn llifogydd a llithriadau mwd yn Sri Lanka, gyda 99 arall yn dal ar goll.
Mae dros 2,900 o bobl wedi gorfod dianc o’u cartrefi yn ôl llywodraeth y wlad wrth i’r gwaith o achub barhau.
Mae’r fyddin wedi bod yn defnyddio cerbydau arfog a chychod i gludo pobl i ardaloedd diogel, ac mae ofnau bod rhagor o bobl yn gaeth mewn pentrefi anghysbell i mewn yn y wlad na all cychod eu cyrraedd.
Mae llithriadau mwd yn gyffredin yn ystod tymor y monsŵn yn y wlad.