Mae dyn 32 oed wedi ei garcharu am 15 mlynedd yn Llys y Goron Abertawe ar ôl pledio’n euog i gam-drin dau blentyn dan 13 blwydd oed yn rhywiol.
Llys y Goron Abertawe

Cafodd Jason Piontecki o Rodfa’r Eos yn Abertawe ei farnu’n euog ym mis Mawrth o greu a meddu  lluniau anweddus o blant.

Gwnaeth plismyn ddarganfod ei fod yn defnyddio gwefannau cymdeithasol er mwyn ffrydio fideos byw o blant yn cael eu cam-drin.

Yn sgil y dyfarniad derbyniodd ei fod yn euog o sawl cyhuddiad arall gan gynnwys ymosod ar blentyn dan 13 blwydd oed ac annog plentyn dan 13 blwydd oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.

Plediodd yn euog i naw trosedd ar Fai 4, 2017. Mi fydd ei enw ar y Rhestr Troseddwyr Rhyw am weddill ei oes.