Mae prif weinidog Nepal wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad, fel bod arweinydd y blaid y mae mewn clymblaid â hi yn gallu ei olynu yn y swydd.
Fe ddaeth Pushpa Kamal Dahal, o Blaid Gomiwnyddol Nepal, yn brif weinidog ym mis Awst 2016, gyda chefnogaeth Cynghres Nepal, plaid fwyaf y wlad.
Fe ddaeth y ddwy blaid i ddealltwriaeth y bydden nhw’n newid prif weinidog wedi naw mis, gan ddewis Sher Bahadur Deuba i gamu i’r swydd wedi’r cyfnod hwnnw.
Yn ystod ei gyfnod yn brif weinidog, mae Pushpa Kamal Dahal wedi cynnal etholiadau lleol am y tro cyntaf ers 20 mlynedd. Mae economi’r wlad hefyd ar i fyny.
Fe fydd Sher Bahadur Deuba yn camu i’r swydd ymhen rhai wythnosau.