Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un
Mae Gogledd Corea wedi lansio taflegryn i ganol Môr Siapan, sy’n debygol o gynyddu’r tyndra rhyngddyn nhw a De Corea.
Cafodd Moon Jae-in ei ethol yn arweinydd newydd De Corea bedwar diwrnod yn ôl, ac mae’r digwyddiad diweddaraf yn debygol o osod Pyongyang yn uwch ar ei restr o flaenoriaethau.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa fath o daflegryn gafodd ei ddefnyddio, ond mae lle i gredu nad y taflegryn arferol sy’n cael ei ddefnyddio gan Ogledd Corea oedd hwn.
Er mai taflegrau pellter byr sydd fel arfer yn cael eu defnyddio, mae lle i gredu bod Pyongyang yn datblygu taflegrau niwclear fydd â’r gallu i deithio mor bell â’r Unol Daleithiau.
Mae Prif Weinidog Siapan, Shinzo Abe wedi dweud bod y weithred yn “gwbl annerbyniol”, ac y byddai Siapan yn ymateb yn gadarn.