Mae lluoedd Cwrdaidd, gyda chefnogaeth America, wedi cipio argae mwyaf Syria oddi ar y Wladwriaeth Islamaidd.

Mae’r milwyr, sy’n cael eu hadnabod fel yr SDF (Lluoedd Democrataidd Syria) yn cynnwys gan fwyaf filwyr Cwrdaidd, ond hefyd yn cynnwys Arabiaid.

Maen nhw’n dweud iddyn nhw gipipo argae Tabqa a’r dref gyfagos, sydd hefyd yn dwyn yr enw Tabqa.

Tabqa ydi’r cadarnle IS diweddara’ i’r gwrthryfelwyr Cwrdaidd ei chipio wrth iddyn nhw wneud eu ffordd tua dinas Raqqa ar lan afon Ewffrates.