Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn yn addo gwladoli diwydiannau a “gwrthdroi blynyddoedd o lymder”, yn ôl maniffesto’r blaid Lafur ar gyfer etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.
Mae’r ddogfen 43 o dudalennau wedi’i rhyddhau i’r wasg yn answyddogol, ac yn amlinellu cynlluniau i ddwyn y diwydiant ynni, y rheilffyrdd, y bysiau a’r Post Brenhinol dan reolaeth gyhoeddus.
Mae hefyd yn ymrwymo i ddileu ffïoedd dysgu, rhoi mwy o hawliau i weithwyr a gwrthdroi cyfres o doriadau i fudd-daliadau, gan gynnwys y dreth ystafell wely.
Mae disgwyl i Lafur orffen ei maniffesto mewn cyfarfod ddydd Iau, ond cafodd y wasg afael ar y ddogfen cyn dyddiad ei chyhoeddi.
Mae papurau newydd The Mirror a’r Daily Telegraph yn honni eu bod wedi gweld y maniffesto drafft cyn y cyfarfod.
Codi trethi
I dalu am yr addewidion, mae Llafur eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i godi treth gorfforaethol i 26% erbyn 2022, gan ddod â £20bn yn ychwanegol i’r Canghellor.
Mae’n debyg y bydd pobol sy’n ennill mwy na £80,000 hefyd yn wynebu codiadau yn eu trethi.
Mae’r maniffesto hefyd yn addo dod â diwedd i ddyled y wlad o fewn tymor o fod mewn llywodraeth.
Yn ôl adroddiadau, does dim targed yn y ddogfen ar gyfer lleihau mewnfudo, sy’n rhywbeth y mae Theresa May wedi addo gwneud, er ei bod wedi methu hyd yn hyn.
Ac mae’r ddogfen hefyd yn dweud na fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen ar y bwrdd.
Cadw Trident
Mae’r maniffesto yn ymrwymo’r blaid i gadw Trident ond yn pwysleisio y “dylai unrhyw brif weinidog fod yn bwyllog ofnadwy am orchymyn defnyddio arfau o ddinistr torfol a fyddai’n lladd miliynau o bobol ddiniwed.”
Bydd y fersiwn derfynol yn gorfod cael ei chymeradwyo gan 80 o bobol yn y Blaid Lafur – gan gynnwys yr arweinydd yng Nghymru, Carwyn Jones.
Mae’r Blaid Lafur wedi gwrthod ymateb i’r ddogfen sydd wedi’i rhyddhau i’r wasg.