Marine Le Pen
Mae bom petrol wedi ei thaflu at yr adeilad lle mae pencadlys ymgyrch arlywyddol Marine Le Pen yn ninas Paris.
Cynheuwyd tân bychan ar ôl i’r ddyfais daro swyddfa yswiriant ar lawr gwaelod yr adeilad lle mae’r Ffrynt Genedlaethol yn rhedeg ei hymgyrch. Ond chafodd neb ei anafu, ac fe gafodd y fflamau eu diffodd yn sydyn.
Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n dweud bod fandalwyr hefyd wedi paentio graffiti sy’n cyfeirio at bolisi gwrth-fewnfudiad plaid y Ffrynt Genedlaethol.
Mae Marine Le Pen wedi dweud ar y sianel France 2 ei bod yn credu mai “actifyddion asgell-chwith eithafol” sydd y tu ôl i’r digwyddiad.
Mae Marine Le Pen yn un o’r prif ymgeiswyr yn etholiad arlywyddol Ffrainc sy’n cael ei gynnal mewn dwy rownd ar Ebrill 23 a Mai 7.