Tudur Owen
Mae’r oes o siopa am ddillad i bara oes wedi mynd, fel y mae Tudur Owen yn darganfod wrth geisio sefydlu busnes yn nhre’ Llanbedr Pont Steffan.
Fel y rhaglen ola’ yn y gyfres, Tudur Owen a’r Cwmni, bydd y cyflwynydd, comedïwr a’r gŵr busnes yn ymweld â’r dre’ yng Ngheredigion i weld a oes gobaith i griw o bobol leol sydd am fentro i gynllunio, gwneud a gwerthu eu dillad gwreiddiol eu hunain.
Ers talwm, Llanbed oedd y lle i fynd os am fuddsoddi mewn ffrog neu siwt newydd. Roedd pobol yn teithio o bell i brynu ffrog neu siwt o siop BJ Jones a sawl boutique arall. Ar yr ystâd ddiwydiannol ar gyrion y dref roedd cannoedd o weithwyr lleol yn cael eu cyflogi yn ffatri Dewhirst i greu dillad i rai o enwau mawr y byd ffasiwn.
Bellach, oherwydd y galw am ddillad rhad o dramor, mae pum siop ddillad wedi diflannu o’r stryd fawr, a drysau’r ffatri wedi cau.
Mentro
Ond mae chwech o drigolion y dref yn penderfynu eu bod am geisio adfer y diwydiant dillad oedd unwaith wrth galon eu cymuned.
Mae Angharad Williams, sy’n berchen ar siop ddillad ‘Lan Llofft’ yn y dref. Yr unig ddyn yn y criw yw John Davies, oedd yn arfer berchen ar siop teiliwr yn Llanbed. Yr aelodau eraill yw Helena Gregson a Debbie Luker oedd yn arfer gweithio yn ffatri Dewhirst yn y dref; Julia Davies sy’n fam-gu sydd wedi penderfynu dychwelyd i’r coleg i astudio ffasiwn a thecstilau, a Betsan Hughes, sy’n cydweithio gydag Angharad Williams yn y siop.
“Wnaethon ni i gyd ddysgu lot fawr – roedd e’n brofiad prysur a chyffrous,” meddai Angharad Williams. “Roedd e’n dipyn o sialens i ni jyglo pethau – o drawsnewid cynlluniau i fod yn eitemau o ddillad.
“Dyw e ddim yn adeg rwydd mewn busnes ar hyn o bryd. Mae siopau’r stryd fawr yn gallu cadw eu prisiau i lawr gan eu bod nhw’n gwerthu eu nwyddau ar y mass market. Yn ystod ffilmio’r rhaglen, wnaethon ni ychydig o ymchwil ar y stryd, a darganfod bod pobol yn becso o ble oedd eu dillad yn dod.”
Tudur Owen a’r Cwmni Dillad, nos Fawrth, Ebrill 25, 9.30yh ar S4C