Bws tim Borussia Dortmund (Llun: PA)
Mae dyn Mwslimaidd wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r ymosodiad brawychol ar fws tîm pêl-droed Borussia Dortmund neithiwr.
Cafodd llythyr ei ddarganfod ger safle cyfres o ffrwydradau sy’n awgrymu mai Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – oedd yn gyfrifol.
Mae’r llythyr, yn ôl adroddiadau, yn mynnu bod awyrennau Almaenig yn cael eu tynnu’n ôl o Dwrci a bod safle Llu Awyr Americanaidd Ramstein yn cael ei gau.
Dywedodd erlynwyr fod dau unigolyn yn cael eu hamau o fod â chysylltiad â’r ymosodiad wrth i’r tîm deithio i’w gêm yn erbyn Monaco yng Nghynghrair y Pencampwyr, a gafodd ei gohirio wedi’r digwyddiad.
Ychwanegon nhw mai “trwy lwc” na chafodd unrhyw un ei ladd.
Mae nifer o fflatiau’n cael eu harchwilio fel rhan o’r ymchwiliad.
Torrodd un o chwaraewr Borussia Dortmund, Marc Bartra ei arddwrn yn yr ymosodiad, ac fe fu’n rhaid iddo fe gael llawdriniaeth.
Mae llefarydd ar ran Canghellor yr Almaen, Angela Merkel wedi condemnio’r ymosodiadau.