Mae’n “anhygoel” nad oes gan Gymru dîm criced cenedlaethol, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.
Daw ei sylwadau ar ôl i gorff Criced Cymru ddatgan wrth golwg360 yn ddiweddar nad yw sefydlu tîm cenedlaethol yn “opsiwn” ar hyn o bryd.
Yn dilyn y stori honno, dywedodd 85% o’r bobol oedd wedi ymateb i bôl piniwn ar Twitter golwg360 eu bod nhw’n anghytuno â sylwadau Cynghorydd Iaith Gymraeg Criced Cymru, Aled Lewis.
Fe fu ymgyrch ers tro i sicrhau cynrychioliaeth i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol, a hynny yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn gan Glwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru.
Daw’r gwrthwynebiad yn sgil y ffaith fod Morgannwg, fel un o’r siroedd proffesiynol, yn derbyn tolc sylweddol o’u harian gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).
Mae rheolau’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn datgan mai un tîm cenedlaethol all pob bwrdd rhyngwladol ei gael. Yn hynny o beth, mae tîm Lloegr yn cwmpasu Cymru hefyd.
Mae gan Iwerddon a’r Alban dimau cenedlaethol, sy’n cael eu hariannu gan yr ICC ac sy’n cystadlu yng Nghwpan y Byd.
Criced Cymru
Serch hynny, dywedodd Cynghorydd Iaith Gymraeg Criced Cymru, Aled Lewis wrth golwg360 y byddai’r gêm yng Nghymru ar ei cholled pe bai tîm yn cael ei sefydlu gan y byddai’r ffordd y mae’n cael ei hariannu’n newid o ganlyniad.
Dywedodd Aled Lewis: “O ran cael tîm ar lefel ryngwladol sy’n cynrychioli Cymru yn erbyn timau fel Lloegr neu Iwerddon, dw i ddim yn meddwl bod hwnna’n opsiwn oherwydd bod y gefnogaeth a’r cyllid ’dan ni’n derbyn drwy’r ECB ddim yr un peth â tasen ni’n mynd trwy’r ICC.
“Dyw e ddim yn opsiwn i ni oherwydd dw i’n meddwl bydd y criced, y cyllid a’r gefnogaeth yn cael eu heffeithio o greu tîm Cymru.”
‘Morgannwg yn rheoli Criced Cymru’
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Jonathan Edwards, un a fu’n flaenllaw yn yr ymgyrch yn 2011 i sefydlu tîm Cymru, ei bod hi’n “amlwg mai Morgannwg sy’n rheoli Criced Cymru a’u safiad yn erbyn y tîm cenedlaethol”.
Dywedodd wrth golwg360: “Mae gan yr Alban, Iwerddon a hyd yn oed Jersey a Guernsey dimau cenedlaethol. Mae’n anhygoel fod gyda ni ddim tîm cenedlaethol yma yng Nghymru.”
Nid sefydlu tîm a fyddai’n cystadlu mewn gemau prawf pum niwrnod yw’r nod, meddai, ond creu tîm a allai gystadlu mewn gemau undydd ugain pelawd a hanner can pelawd.
“Dyn ni ddim yn sôn yma am dîm fyddai’n chwarae mewn gemau prawf – yn y T20 fyddai Cymru’n chwarae, fwy na thebyg. Mae’n anhygoel fod Criced Cymru na Morgannwg ddim yn gweld y potensial mawr.
“Mae gan Seland Newydd yr un math o strwythur o ran y clybiau ag sydd yma yng Nghymru a thua’r un faint o chwaraewyr, ac mae hynny’n amlygu’r diffyg uchelgais yma yng Nghymru.
“Dyw faint o chwaraewyr Morgannwg sydd wedi chwarae i Loegr dros y blynyddoedd ddim yn adlewyrchiad teg o’r talent sydd yma yng Nghymru, a byddai’n hwb enfawr i rai o’r chwaraewyr hyn i chwarae dros eu gwlad.
“Mae’r un peth yn wir am bob camp – faint o chwaraewyr sy’n cael chwarae i Loegr yn y byd pêl-droed neu rygbi? Mae llawer llai o chwaraewyr yma yng Nghymru.
“Dyw Morgannwg na Chriced Cymru jyst ddim yn gweithredu er lles y gêm yng Nghymru.
“Dylen ni yma yng Nghymru fod yn gwneud y gêm y fwya poblogaidd all hi fod – mae angen tîm cenedlaethol i wneud hynny. Byddai mwy o chwaraewyr wedi cael y cyfle i chwarae ar y llwyfan rhyngwladol pe bai gyda ni dîm cenedlaethol.”
Ymateb Criced Cymru a Morgannwg
Tra bod Clwb Criced Morgannwg wedi gwrthod gwneud sylw, anfonodd Criced Cymru y datganiad canlynol at golwg360 yn ymateb i bryderon Jonathan Edwards.
“Mae Criced Cymru’n sefydliad drwy aelodaeth sy’n gyfuniad o 230 o glybiau, cynghreiriau, rhanbarthau a chymdeithasau. Nhw sy’n ethol Bwrdd Criced Cymru.
“Mae’r Bwrdd a’n haelodau’n ymroddedig i fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn sgil y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i ni.
“Mae deuddeg o gyfarwyddwyr ar Fwrdd Criced Cymru sydd â phleidlais, a dim ond dau ohonyn nhw’n dod o Forgannwg.
“Mae yna dîm criced llwyr broffesiynol yng Nghymru, sef Morgannwg. Yn nhermau’r effaith ar gyfranogiad, mae Criced Cymru o’r farn fod llawer mwy o botensial wrth gefnogi Morgannwg i ddod yn dîm llwyddiannus na thrwy dorri’n rhydd oddi wrth Fwrdd Criced Cymru a Lloegr a chael tîm cenedlaethol yng Nghymru.
“Dydi hi ddim yn bosib cael tîm Morgannwg a thîm cenedlaethol i Gymru. Drwy fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, mae Criced Cymru’n gweithredu er lles criced yng Nghymru yn unol â dymuniadau ein sefydliadau sy’n aelodau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl Jonathan Edwards, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod tîm cenedlaethol yn cael ei sefydlu.
“Does dim dwywaith, yn fy marn i, y byddai tîm Cymru’n gallu cyrraedd Cwpan y Byd mewn T20. Y gwirionedd yw fod rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd a gorfodi’r ICC i ymchwilio ond dy’n nhw ddim yn gwthio’r peth.”
Ond wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai “mater i Griced Cymru mewn ymgynghoriad â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr” yw sefydlu tîm criced cenedlaethol.