Cafodd bws oedd yn cludo tîm pêl-droed Borussia Dortmund i’w gêm yn erbyn Monaco yng Nghynghrair y Pencampwyr neithiwr ei dargedu mewn cyfres o ffrwydradau.

Roedd y bws ar ei ffordd i stadiwm Signal Iduna Park pan ffrwydrodd bom wrth ymyl y ffordd.

Cafodd yr amddiffynnwr, Marc Bartra, ei gludo i’r ysbyty ar ôl torri ei arddwrn yn y digwyddiad, ac fe fu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth.

Cafodd y gêm ei gohirio tan heno yn dilyn cyfarfod brys â chorff UEFA.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi dod o hyd i lythyr sy’n hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Ond mae lle i gredu bod ffrwydron wedi cael eu cuddio mewn perth a’u bod wedi ffrwydro wrth i’r bws fynd heibio.

Mewn datganiad, dywedodd llywydd FIFA, Gianni Infantino fod “meddyliau pawb yn FIFA gyda phobol Dortmund”, a’u bod yn “condemnio’r digwyddiadau”.