Mike Phillips
Mae cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi ei esgidiau rygbi o’r neilltu wrth ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor hwn.

Wedi gyrfa ryngwladol o ddeuddeg mlynedd, enillodd y gŵr 34 oed o Gaerfyrddin yn wreiddiol 94 cap dros Gymru gan sgorio naw cais.

Roedd wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol ers mis Rhagfyr 2015, ac ar hyn o bryd yn chwarae i’r Sale Sharks wedi iddo arwyddo cytundeb ym mis Mai’r llynedd.

‘Yr un angerdd…’

Mewn neges ar Twitter brynhawn ddoe, dywedodd Mike Phillips y byddai’n wynebu penodau nesaf ei yrfa â’r “un angerdd, ymrwymiad a chwerthin ag y gwnes i drwy fy ngyrfa gyfan.”

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged i’w gyfraniad mae’r dyfarnwr Nigel Owens a ddywedodd – “pob lwc Mike a da iawn ar dy yrfa arbennig.”

Bu Mike Phillips yn rhan o lwyddiant Cymru wrth ennill y Gamp Lawn ddwywaith, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad deirgwaith a chafodd ei ddewis ar gyfer dwy o deithiau’r Llewod.

Mae wedi chwarae i glybiau’r Scarlets, Gleision Caerdydd, Y Gwelich, Bayonne, Racing 92 ac yn fwy diweddar Sale Sharks.

Cyfraniad anferthol’

“Ar ran y clwb a’r hyfforddwyr eraill, hoffwn ddiolch i Mike am gyfraniad anferthol y tymor hwn i’r garfan,” meddai Cyfarwyddwr rygbi Sale, Steve Diamond.

“Mae’n fachgen arbennig ac yn broffesiynol iawn, ac rydym fel clwb wedi dysgu llawer ganddo.”