Vladimir Putin
Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi condemnio ymosodiad yr Unol Daleithiau ar faes awyr yn Syria a chyhuddo’r wlad o “dorri cyfraith ryngwladol”.

Yn gynnar y bore yma fe saethodd America ddwsinau o daflegrau at faes awyr Shayrat i’r de ddwyrain o ddinas Homs, a hynny mewn ymateb i ymosodiad cemegol gan Bashar Assad ddechrau’r wythnos.

Targedodd America’r maes awyr yn Shayrat gan eu bod yn credu mai o’r fan honno y cafodd yr arfau cemegol eu lansio.

Mae cyfryngau Syria wedi disgrifio gweithred America fel un  “ymosodol” tra bod Llywodraethwr Homs yn honni bod dinasyddion wedi cael eu lladd.

Bu farw dros 80 o bobol tref Khan Sheikhoum yn ystod yr ymosodiad cemegol ddydd Mawrth, lle mae’n debyg cafodd y cemegyn rhyfel sarin ei ddefnyddio.

Yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia, ffrwydrad arfau cemegol gwrthryfelwyr yn dilyn ymosodiad o’r awyr wnaeth achosi’r marwolaethau.