Dyn yn cario plentyn i ysbyty yn dilyn yr ymosodiad cemegol yn Idlib.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cefnogi penderfyniad America i fomio maes awyr yn Syria, ac wedi dweud fod yr ymosodiad milwrol yn gynnar y bore yma yn “ymateb priodol” i ymosodiad cemegol “barbaraidd” gan Bashar Assad, Llywydd Syria.

Fe gafodd 72 eu lladd  yn rhanbarth Idlib o Syria wrth i arfau yn cynnwys cemegion gwenwynig gael eu gollwng arnyn nhw ddydd Mawrth, ac ers hynny bu pwysau ar Arlywydd America i gosbi cyfundrefn Bashar Assad.

Mae Donald Trump wedi gorchymyn gollwng taflegrau ar safle awyr Shayrut yn Syria, lle y credir i’r arfau cemegol gael eu lansio.

Ac mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog Theresa May wedi cadarnhau bod “Llywodraeth Prydain yn llwyr gefnogi gweithred America, un yr ydym yn gredu sydd yn ymateb priodol i’r defnydd barbaraidd o arfau cemegol a gafodd ei lansio gan y gyfundrefn yn Syria, ac sydd wedi ei fwriadu i atal mwy o ymosodiadau cemegol o’r fath”.