Mae S4C yn dweud ei bod angen £6 miliwn o arian ychwanegol er mwyn rhoi rhaglenni’r sianel ar wahanol lwyfannau digidol.

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn £74.5 miliwn o ffi drwydded y BBC, a £6.8 miliwn gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r Sianel hefyd yn benthyg £10 miliwn gan y Llywodraeth i symud i bencadlys newydd.

Daw’r alwad am fwy o arian wrth i S4C gyhoeddi ei gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesa’, gan addo gwneud cam sylweddol tuag at ddarparu cynnwys ar gyfryngau digidol.

Yn y ddogfen S4C: Gwthio’r Ffiniau, mae’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd yn dweud y bydd yn newid ei chylch gorchwyl er mwyn symud i ffwrdd o fod yn “ddarlledwr traddodiadol”,

Daw’r addewid i gofleidio’r oes ddigidol cyn i Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan gynnal adolygiad o bwrpas y Sianel Gymraeg a sut orau i’w chyllido.

Yn ôl S4C, mae’r weledigaeth hon yn “rhan hanfodol” o gyflwyniad y sianel i’r adolygiad.

Blaenoriaethau

Yn y ddogfen, mae’r darlledwr wedi amlinellu pedair prif flaenoriaeth ar gyfer darparu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol:

* Darparu cynnwys ar bob llwyfan: Sicrhau y gall y gynulleidfa ddefnyddio cynnwys S4C pryd, ble a sut bynnag y dymunant.

* Creu’r Cynnwys Cywir: Ei wneud yn fwy perthnasol, cystadleuol ac amrywiol.

* Gwerth Ehangach fel Gwasanaeth Cyhoeddus: Sicrhau buddion economaidd, ieithyddol ac addysgol.

* Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth: Gwella galluoedd ac enw da masnachol.

“Esblygu”

“Rydym am esblygu o fod yn ddarlledwr traddodiadol i fod yn ddarparwr cynnwys ar draws y cyfryngau ym myd cysylltiedig yr unfed ganrif ar hugain,” meddai Cadeirydd S4C, Huw Jones.

“Mae’r ddogfen weledigaeth yn egluro sut bydd rhaid i S4C ddod yn ddarparwr cynnwys ar bob llwyfan boblogaidd – darlledu, teledu clyfar, cyfryngau cymdeithasol, safleoedd fideo ffurf fer, ffurf hir ar-lein ac mae rhaid gwneud hyn ar yr un amser ag y mae’n parhau i fuddsoddi yn ei bresenoldeb ar lwyfannau teledu.

“Mae’r ddogfen hefyd yn amlinellu’r uchelgais i fuddsoddi mwy mewn prosiectau cynhyrchu mawr, denu cynulleidfaoedd newydd i’r sianel deledu yn ogystal â chomisiynu cynnwys ar-lein cysylltiedig.”

“Cylch gorchwyl newydd”

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones fod angen newid tri pheth er mwyn cyflawni gweledigaeth y sianel:

“Cylch gorchwyl newydd i ddarparu Cynnwys Gwasanaeth Cyhoeddus Cymraeg ar deledu ac ar lwyfannau digidol i gynulleidfaoedd yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

“Cyllid digonol pob blwyddyn i gyfleu ac i gynnal y math a lefel o wasanaethau ac i gynnal cydraddoldeb gyda sianeli eraill mewn byd digidol aml-lwyfan.

“Proses gwrthrychol a thryloyw er mwyn penderfynu beth olygir wrth arian digonol ar gyfer S4C, wedi seilio ar gylch gorchwyl newydd.”

Arian

Ar hyn o bryd, mae’r sianel yn darlledu dros 1,850 awr o raglenni gwreiddiol bob blwyddyn ar gost o £34,000 yr awr.

Ym mis Ionawr, daeth cadarnhad y bydd £700,000 yn llai i gyllideb S4C y flwyddyn nesa’.

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud ei bod wedi ymrwymo i gefnogi S4C ac y bydd yr adolygiad iddi yn digwydd “yn fuan”. Maen nhw wedi addo un cyn diwedd y flwyddyn.