Jacob Zuma
Mae’r blaid sy’n llywodraethu yn Ne Affrica wedi dweud ei bod yn pryderu ynglyn ag adroddiadau o “drais a bygythion” cyn protest yn erbyn arlywydd y wlad fory (dydd Gwener).

Mae’r Gynghrair Genedlaethol Affricanaidd wedi apelio am heddwch yn ystod y gwrthdystiadau ac wedi mynegi pryder wedi adroddiadau fod pobol yn bwriadu mynd ag arfau yno.

Mae grŵp o’r enw Achub De Affrica, sydd yn erbyn Arlywydd Jacob Zuma, wedi dweud bod rhai wedi ymosod ar ei gefnogwyr nos Fercher, ond nad oedd anafiadau.

Mae’r grŵp yn honni bod gan rai o’r ymosodwyr gysylltiadau â’r blaid lywodraethol.

Fe wnaeth Jacob Zuma godi twrw cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddo ddiswyddo’r gweinidog cyllid, oedd yn cael ei ystyried fel swyddog effeithiol o’r economi.