Arfordir Indonesia (Llun: PA)
Mae timoedd achub wedi tynnu dau gorff arall o dirlithriad wnaeth daro Indonesia ddydd Sadwrn.
Hyd yma, mae cyfanswm o bedwar corff wedi eu tynnu o’r tirlithriad wnaeth daro tra oedd ffermwyr yn cynaeafu sinsir ym mhentref Banaran yn rhanbarth Ponorogo.
Mae’n debyg bod y tirlithriad milltir o hyd wedi claddu tai, wedi dymchwel ceir ac wedi creithio ochr bryn.
Cafodd 17 eu cludo i’r ysbyty a llwyddodd cant arall i ddianc, ond mae swyddogion yn pryderu bod rhwng 28 a 38 pentrefwr ar goll ac wedi eu claddu gan y tirlithriad.
Mae tirlithriadau yn tueddu taro Indonesia yn ystod cawodydd tymhorol, ac mae nifer o bobol y wlad yn byw ar fynyddoedd, neu ar diroedd isel ger afonydd sy’n gorlifo.