Mae heddlu India yn chwilio am ddau ddyn sy’n cael eu hamau o dreisio ymwelydd o’r Almaen ar draeth yn nhre’ Mamallapuram yn ne’r wlad.
Mae’r ddynes wedi dweud wrth yr heddlu ei bod wedi mynd am dro, gan syrthio i gysgu mewn rhan ynysig o’r traeth pan gafodd hi ei threisio ddydd Sul.
Roedd hi’n rhan o grwp o dwristiaid o’r Almaen ar ymweliad â’r dref sy’n enwog am ei themlau Hindwaidd.
Mae’r heddlu erbyn hyn yn chwilio trefi cyfagos yn nhalaith Tamil Nadu, ond does neb eto wedi’i arestio.