Mae cwch yr heddlu wedi achub dyn wedi ymosodiad gan siarc oddi ar arfordir Awstralia. Fe lwyddodd y siarc i gnoi darn ôl caiac y gwr yn Moreton Bay ger Brisbane.
Fe lwyddodd y dyn 39 oed i ffonio’r heddlu i ofyn am help, ac fe gafodd ei godi’n ddiogel o’r tonnau brynhawn Sul.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, roedd y dyn yn “ffodus” i allu disgrifio wrth yr heddlu lle’n union yr oedd, trwy ddweud fod awyrennau’n glanio’n gyson ym maes awyr Brisbane gerllaw.