(Llun: Cesar Carrion/Swyddfa'r Wasg Arlywydd Colombia drwy AP)
Mae dros 200 o bobol wedi marw’n dilyn y llifogydd difrifol yng Ngholombia, yn ôl y Groes Goch.
Roedd tair afon wedi gorlifo i mewn i Mocoa yn dilyn storm, lle mae hyd at 40,000 o bobol yn byw, gan ddifrodi cartrefi a cherbydau.
Mae nifer fawr o goed wedi cwympo, a cherrig wedi’u llusgo ar hyd y strydoedd.
Yn ôl y Groes Goch, mae 202 o bobol wedi cael eu hanafu, a 220 yn dal ar goll.
Argyfwng
Mae Arlywydd Colombia, Juan Manuel Santos wedi cyhoeddi cyfnod o argyfwng yn y wlad, gan ddweud bod disgwyl i nifer y meirw gynyddu eto fyth.
Dywedodd fod newid hinsawdd yn gyfrifol am y llifogydd, a bod gwerth bron i fis o law wedi cwympo mewn un noson yno.
Mae hwn yn un o’r trychinebau naturiol gwaethaf yn hanes y wlad – cafodd 25,000 o bobol eu lladd yn 1985 ar ôl i losgfynydd Nevado del Ruiz ffrwydro, gan gladdu pentref Armero.