Mae pryderon bod wyth o blant ysgol wedi marw ar ôl cwymp eira mewn cyrchfan sgïo yn Japan.

Fe ddigwyddodd y cwymp eira yn nhref Nasu yn Tochigi, tua 120 milltir i’r gogledd o Tokyo, am 9.20yb (amser lleol) ddydd Llun.

Dywed y gwasanaethau brys eu bod nhw wedi dod o hyd i gyrff wyth o bobl.

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau yn Japan, roedd yr wyth gafodd eu lladd yn fyfyrwyr ac ymhlith grŵp o 60 o ddisgyblion o saith ysgol uwchradd oedd ar y llethrau ar y pryd. Roedd y tymor sgïo wedi dod i ben yn y gyrchfan.

Yn ôl yr Asiantaeth Rheoli Argyfyngau cafodd nifer o bobl eraill eu hanafu yn y cwymp eira.