Mae Democratiaid Sosialaidd yr Almaen (y Sozialdemokratische Partei Deutschlands) wedi ethol cyn-lywydd yr Undeb Ewropeaidd, Martin Schulz yn brif ymgeisydd y blaid i herio arweinydd Angela Merkel yn etholiad cyffredinol yr Almaen.

Cafodd ei ethol yn unfrydol.

Fe fydd e’n herio’r Canghellor Angela Merkel yn etholiad cyffredinol y wlad mewn ymgais i ddod yn Ganghellor.

Cafodd ei enwebu ar gyfer yr arweinyddiaeth ym mis Ionawr yn dilyn penderfyniad annisgwyl Sigmar Gabriel i gamu o’r neilltu.

Ers hynny, mae poblogrwydd y blaid wedi cynyddu ac mae Martin Schulz wedi cael clod am hynny, gyda 13,000 o aelodau newydd wedi ymuno â’r blaid ers dechrau’r flwyddyn.

Polisïau

Yn ei araith gerbron aelodau’r blaid yn Berlin, cyfeiriodd Martin Schulz at draddodiad y blaid o warchod hawliau gweithwyr, gan alw hefyd am ragor o fuddsoddiad mewn addysg a gofal iechyd.

Dywedodd fod y bwlch rhwng y bobol gyffredin a’r cyfoethog wedi suro’r byd gwleidyddol, ac wedi arwain at gynnydd mewn pleidiau poblyddol.

Achubodd Martin Schulz ar y cyfle hefyd i feirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump a’i agweddau hiliol.

Bydd etholiad cyffredinol yr Almaen yn cael ei gynnal ar Fedi 24, ac mae Angela Merkel yn mynd am bedwerydd tymor wrth y llyw.