Mae dogfen sydd newydd ei rhyddhau yn dangos bod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi talu 153 miliwn o ddoleri (£31m) mewn treth incwm yn 2005.
Mae’r ddogfen yn dangos ei fod e wedi talu’r dreth ar gyfradd ychydig yn is na 25% – ond mae e bellach yn ceisio diddymu’r dreth honno – 10% yw’r gyfartaledd genedlaethol.
Fe wnaeth y dyn busnes golled o 103 miliwn o ddoleri (£85 miliwn) y flwyddyn honno, ond dydy’r ddogfen ddim yn rhoi rhagor o fanylion am hynny.
Cafodd y ffigurau eu canfod gan y newyddiadurwr David Cay Johnston, sy’n gyfrifol am wefan DCReport.org, ac fe ddywedodd ei fod e wedi derbyn y ffigurau yn y post heb ofyn amdanyn nhw.
Yn ôl papur newydd The New York Times y llynedd, roedd Donald Trump wedi manteisio ar reolau treth oedd yn golygu ei fod e wedi gallu osgoi talu trethi am hyd at 18 o flynyddoedd.
Yn swyddogol, mae Donald Trump wedi gwrthod datgelu faint o dreth mae’n ei thalu, yn groes i draddodiad yr Unol Daleithiau.
Dywedodd yn ddiweddarach ei fod yn gwrthod gwneud ar sail cyngor gan ei gyfreithiwr.
Yn ôl swyddogion y Tŷ Gwyn, mae’r ffordd y mae’r ffigurau wedi dod yn hysbys yn anghyfreithlon.
Mae mwy na miliwn o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Donald Trump i gyhoeddi’r ffigurau’n swyddogol.