Llun: Wikipedia
Bydd lladd-dy yng Nghaernarfon yn cau dros dro – a phrinder anifeiliaid sydd i gyfri’ am hynny, meddai’r rheolwr.
Bydd Menai Meats yn cau am chwech i saith wythnos o ddydd Llun nesa’, Mawrth 20.
Fel arfer mae’r lladd-dy ar agor trwy’r wythnos ac yn prosesu 2,000 o dda byw yn ddyddiol, ond yn ddiweddar mae’r lladd-dy wedi bod ar agor ddau neu dri diwrnod yr wythnos, gan brosesu rhyw 1,500 yn ddyddiol.
Mae gan y lladd-dy 40 aelod o staff sydd yn cael ei cyflogi’n rhan amser, ac er bydd y gweithwyr yn cael eu diswyddo dros dro bydd pawb yn dod yn ôl i weithio yno pan fydd y lle’n ail agor.
“Dyma adeg y flwyddyn pan nad oes digon o wyn ar gael yn lleol,” meddai rheolwr Menai Meats, Muhammad Ali. “Mae’n costio gormod i gynhyrchu cyn lleied ag yr ydym ar hyn o bryd. Does dim digon o gynnyrch lleol ar gael felly mae’n rhaid i ni brosesu da byw o ganol Lloegr a’r Alban.
“Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn waeth nag arfer. Mae lot o wyn wedi cael eu gwerthu yn gynnar felly does dim digon ar gael ar hyn o bryd.
“Mae prisiau wyn wedi bod yn uchel iawn trwy’r flwyddyn, felly erbyn hyn mae’r cyflenwad wedi rhedeg allan.”