Mae heddlu yn y Swistir yn chwilio am ddau ddyn arfog wnaeth ymosod ar gwsmeriaid caffi yn ninas Basel gan ladd dau ac anafu un arall yn ddifrifol.

Saethodd y ddau ddyn at grŵp o Albaniaid yn Cafe 56 ddoe, cyn dianc ar droed tuag at orsaf drenau gyfagos.

Mae heddlu wedi cadarnhau mai dynion o Ddwyrain Ewrop fu’n saethu a doedd dim awgrym o gysylltiad Islamaidd neu derfysgol i’r ymosodiad.

Nid yw’n glir pam wnaeth yr ymosodwyr dargedu’r caffi ac mae timau fforensig wedi bod yn casglu tystiolaeth dros nos.

Daeth yr ymosodiad ddiwrnod ar ôl dathliadau Fasnacht y ddinas – carnifal mwyaf y Swistir – ddod i ben.