Theresa May
Mae Prif Weinidog gwledydd Prydain wedi mynnu ei bod wedi “ymrwymo yn llwyr” i gynyddu Yswiriant Cenedlaethol yr hunangyflogedig.

Mae Theresa May wedi addo y bydd yn gwrando ar bryderon Aelodau Seneddol Ceidwadol ynghylch y cynnydd,  ond ni fydd pleidlais ar gynnydd i’r Yswiriant Cenedlaethol tan yr Hydref.

Mae’r Canghellor Cysgodol wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “dro pedol” yn dilyn ei phenderfyniad i ohirio’r bleidlais yma.

Anfodlonrwydd Ceidwadol

Mae 20 o Geidwadwyr wedi lleisio pryder ynglŷn â’r cynnydd – gan gynnwys Aelod Seneddol Aberconwy. Mae Guto Bebb wedi galw ar y Llywodraeth i ymddiheuro am dorri ymrwymiad maniffesto’r blaid i beidio â chynyddu’r Yswiriant Cenedlaethol.

Mae Theresa May yn mynnu bod y cynnydd 2% yn “deg” o ystyried y gwelliannau ym muddion gwladol i bobol hunangyflogedig, ac mae’r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi papur wedi’r haf fydd yn cynnwys gwelliannau pellach i’r hunangyflogedig.