Mae mwy na 30 o bobol wedi’u lladd mewn ymosodiad ar ysbyty milwrol yn Afghanistan.

Mae’r awdurdodau yn honni i’r ymosodiad fore Mercher ar ysbyty yn ardal ddiplomataidd Kabul, wedi ysgogi oriau o ymladd wedyn.

Mae 50 o bobol wedi’u hanafu hefyd yn y digwyddiad.