Mae daeargryn o nerth 5.5 wedi ysgwyd un o drefi de-ddwyrain Twrci. Mae adroddiadau am rai anafiadau, ond does dim son eto fod neb wedi’i ladd.
Tre’ Samat yn nhalaith Adiyaman oedd canolbwynt y daeargryn, ac mae pedwar ol-gryniad wedi bod ers hynny, a’r cryfaf o’r rheiny’n mesur 4.4.
Yn ol adroddiadau, fe achosodd y daeargryn cynta’ banig mawr yn y dre’.
Yn ol yr awdurdodau, roedd yr ysgwyd rhyw 10 cilomedr (neu 6 milltir) o dan wyneb y ddaear. Ond fe gafodd ei deimlo hefyd yn nhaleithiau Gaziantep, Kilis, Batman a Sanliurfa.