Mae dynion arfog wedi herwgipio dau archeolegydd o’r Almaen mewn pentre’ yng ngogledd Nigeria.

Fe ddaeth cadarnhad gan yr heddlu’n lleol fod Peter Breunig a Johannes Behringer wedi’u cymryd yn erbyn eu hewyllys o bentre’ Jenjela yn nhalaith Kaduna fore Mercher yr wythnos hon.

Mae’r heddlu ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r pentrefwyr er mwyn ceisio achub y pâr.

Y gred ydi fod y ddau archeolegydd yn rhan o dîm o bedwar o Brifysgol Goethe yn ninas Frankfurt sy’n cydweithio gyda Chomisiwn Cenedlaethol Henebion ac Amgueddfeydd Nigeria.