Mae wyth o bobol wedi’u lladd gan ffrwydriad yn ninas Lahore ym Mhacistan.
Dydi hi ddim eto’n glir beth achosodd y ffrwydriad yn y bwyty crand, ond mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod 15 o bobol wedi’u hanafu yn y digwyddiad.
Fe ddaw ar gynffon cyfres o achosion o hunanfomio ac ymosodiadau eraill dros y pythefnos ola’, sydd wedi lladd cyfanswm o 125 o bobol.
Mae nifer o grwpiau milwriaethus, yn cynnwys y Wladwriaeth Islamaidd ac un o ganghennau’r Taliban, wedi hawlio cyfrifoldeb.