Y diweddara’: Mae heddlu Malaysia wedi cadarnhau bod dyn lleol wedi ei arestio yn achos lladd hanner brawd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un, mewn maes awyr prysur.
Roedd hynny wedi eu helpu, medden nhw, i arestio dynes ynghynt heddiw – yr ail wraig sy’n cael ei hamau o lofruddio’r dyn a oedd, meddai rhai, yn her bosib i’w hanner brawd.
Cafodd y ddwy eu gweld fideo camerâu cylch cyfyng maes awyr rhyngwladol Kaula Lumpur, Malaysia, lle cafodd Kim Jong-nam ei wenwyno ddydd Llun.
- Yn ôl heddlu Malaysia, roedd gan yr ail ddynes basbort o Indonesia, gyda’r enw Siti Aishah, 25 oed.
- Roedd gan y ddynes gynta’ ddogfennau teithio o Fietnam, gyda’r enw Doan Thi Huong, 28.
Mae lluniau CCTV ohoni yn ei dangos mewn sgert a chrys-T â llewys hir â’r geiriau “LOL” ar hyd y ffrynt.
Dywedodd gweinyddiaeth dramor Indonesia, fod miliynau o bobol o’r wlad yn gweithio yn Maleisia ac y gallai’r pasbort fod wedi cael ei ddwyn.
Cynllun Gogledd Corea?
Yn ôl swyddog o Lywodraeth Malaysia, dywedodd Kim Jong Nam wrth feddygon cyn iddo farw fod rhyw rai wedi ymosod arno gyda chwistrell gemegol.
Mae’r farwolaeth wedi dechrau sïon am ran Gogledd Corea yn llofruddiaeth y dyn a oedd yn cael ei adnabod am ei yfed, ei gamblo a’i fywyd teuluol cymhleth – ond a oedd hefyd yn her posib i arweinydd Gogledd Corea, ei hanner-brawdd Kim Jong-un.
Dywedodd asiantaeth ysbiwyr De Corea, y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol, fod Gogledd Corea wedi bod yn ceisio lladd Kim Jong Nam ers pum mlynedd.