O’r wythnos hon ymlaen, fe fydd yn rhaid i filiynau o ymwelwyr rhwng 14 a 70 oed gael profion olion bysedd cyn cael mynediad i China.
Yr unig bobol sydd wedi’u heithrio o’r drefn newydd, ydi tramorwyr sydd â phasborts diplomyddol neu’r rheiny sy’n dod o wledydd sydd â chytundebau arbennig â China.
O ddydd Gwener, Chwefror 10 ymlaen, fe fydd olion bysedd yn cael eu sganio a’u cadw ar gyfrifiadur in Shenzhen, y ddinas sy’n ffinio â Hong Kong, cyn bod y drefn yn cael ei chyflwyno ledled y wlad.
Fe deithiodd 76 miliwn o bobol i mewn ac allan o China yn ystod 2016 – y rhan fwya’ ohonyn nhw o Dde Corea, Siapan, yr Unol Daleithiau a Rwsia.
Mae America yn sganio olion bysedd teithwyr ers 2004, ac mae Siapan wedi mabwysiadu’r drefn ers 2007.