Amgueddfa'r Louvre (Llun: Wikipedia)
Mae amheuon bellach a fydd Paris yn gallu cynnal y Gemau Olympaidd yn 2024 yn dilyn yr ymosodiad y tu allan i Amgueddfa’r Louvre brynhawn ddoe.
Cafodd dyn oedd yn cario dwy gyllell machete ei saethu gan yr heddlu y tu allan i’r amgueddfa, oriau’n unig cyn i swyddogion gwblhau eu cais i gynnal un o ddigwyddiadau mwya’r byd chwaraeon ymhen saith mlynedd.
Mae Ffrainc yn dal i geisio sefydlogrwydd yn sgil cyfres o ymosodiadau brawychol yn 2015, ac mae cwestiynau wedi codi am allu swyddogion diogelwch i ymdrin â bygythiadau.
Yn dilyn yr ymosodiad, dywedodd yr Arlywydd Francois Hollande nad oedd “amheuaeth” mai ymosodiad brawychol oedd wedi digwydd.
Pwy oedd yn gyfrifol?
Mae lle i gredu mai dyn 29 oed o dras Eifftaidd sy’n gyfrifol, ond dydy’r awdurdodau ddim wedi cadarnhau hynny.
Mae lle i gredu hefyd ei fod e wedi bod yn byw yn yr Emiradau Arabaidd Unedig a’i fod e wedi glanio ym Mharis ar Ionawr 26.
Mae adroddiadau’n awgrymu ei fod e wedi prynu dwy gyllell machete ym Mharis, a’i fod e wedi talu 1,700 Ewro i aros mewn fflat am wythnos.
Yn dilyn yr ymosodiad, fe waeddodd ‘Alluha Akhbar’, sef ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio gan Fwslimiaid i foli Duw.
Mae’r unigolyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.