Mae adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi cyhuddiadau yn erbyn chwech o reolwyr cwmni ceir Volkswagen.
Mae’r chwech wedi’u cyhuddo o gynllwynio i dwyllo’r Unol Daleithiau trwy wneud datganiadau ffug i reoleiddwyr a’r cyhoedd.
Mae llywodraeth America yn dwyn achos yn erbyn y cwmni, am werthu cerbdau diesel nad oedd yn cyrraedd safonau allyriadau y wlad.
Mae pob un o’r rheolwyr yn dod o’r Almaen, ac mae un ohonyn nhw’n byw yn y wlad honno ar hyn o bryd. Fe gafodd un arall, Oliver Schmidt, ei arestio yn Miami ar Ionawr 7, ar ymweliad ag America.
Y cyhuddiadau
* Jens Hadler, 50, pennaeth datblygu peiriannau Volkswagen, 2007-2011 – cynllwynio.
* Bernd Gottweis, 69, pennaeth rheoli ansawdd a diogelwch cynnyrch, 2007-2014 – twyll.
* Richard Dorenkamp, 68, pennaeth adran trin peiriannau VW, 2003-2013 – tramgwyddo rheolau llygredd aer.
* Heinz-Jakob Neusser, 56, pennaeth adran datblygu peiriannau VW, 2011-2013, a phennaeth datblygu brand, 2013-2015 – twyll, a thorri rheolau llygredd aer.
* Oliver Schmidt, 48, pennaeth swyddfa amgylcheddol a pheirianyddol VW yn Michigan, 2012-2015 – twyll, a thorri rheolau llygredd aer.
* Jurgen Peter, 59, peiriannydd yn y grwp rheoli ansawdd a diogelwch cynnyrch, 1990-presennol – twyll a thorri rheolau llygredd aer.