Mae o leia’ saith o bobol wedi’u lladd, a 14 wedi’u hanafu’n ddifrifol, wedi i bont grog yng nghefn gwlad Colombia droi drosodd gan daflu cerddwyr dros 260 troedfedd i gwm islaw.

Mae’r bont ger dinas Villavicencio yn atyniad twristaidd poblogaidd iawn, ac mae’r awdurdodau’n dweud y gallai’r ddamwain fod wedi digwydd oherwydd fod gormod o bobol ar y bont ar y pryd. Roedd dydd Llun yn ddiwrnod prysur, gan ei fod yn benllanw tridiau o wyliau yn y wlad.

Mae’r gwasanaethau brys yn rhybuddio y gallai nifer y rheiny sydd wedi’u hanafu a’u lladd godi, wrth i’r gwaith chwilio ac achub fynd rhagddo.

Ymhlith y meirwon hyd yn hyn y mae pump oedolyn a dau o blant.