(map o wefan Wikipedia)
Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi cadarnhau bod Rwsia a Twrci wedi cytuno ar gynllun cadoediad yn Syria.

Fe fydd y ddwy wlad yn gwarantu’r cadoediad, a ddaw i rym am hanner nos heno.

Y cam nesaf wedyn fydd trafodaethau heddwch rhwng llywodraeth Bashar Assad a’i wrthwynebwyr yn Kazakhstan yn y dyfodol agos.

Mae Rwsia yn un o gefnogwyr allweddol Bashar Assad tra bod Twrci yn un o brif gefnogwyr y rhai sy’n gwrthryfela yn ei erbyn.

Mewn datganiad ar deledu’r wlad, dywed byddin Syria y bydd cadoediad cenedlaethol cynhwysfawr o hanner nos ymlaen, a bod hyn yn digwydd ar ôl “llwyddiannau a gyflawnwyd gan ein lluoedd arfog”. Y gred yw bod hyn yn cyfeirio at lwyddiant y fyddin i ail-gipio cymdogaethau o Aleppo a oedd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Wrth groesawu’r cadoediad, dywedodd gweinyddiaeth dramor Twrci fod llywodraeth Twrci a’r gwrthwynebwyr wedi cytuno i roi’r gorau i ymosodiadau, gan gynnwys ymosodiadau o’r awyr, ac i beidio ag ehangu tiriogaethau sydd o dan eu rheolaeth mewn modd a fyddai’n niweidiol i’w gilydd.

Fe fydd Twrci a Rwsia yn cadw golwg ar y ddwy ochr er mwyn sicrhau bod y cadoediad yn parhau.