(llun: PA)
Mae Prydain yn wynebu ‘degawd o anhrefn’ yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl adroddiad newydd gan y grŵp ymchwil IPPR.

Dywed yr adroddiad fod sioc Brexit yn ergyd ychwanegol at y problemau eraill sy’n wynebu’r economi fel poblogaeth yn heneiddio a’r newid mewn patrymau gwaith yn sgil chwyldro technolegol.

Mae disgwyl y bydd cynnydd o draean yn niferoedd pobl dros 65 oed dros y 10 mlynedd nesaf, gyda diffyg o £13 biliwn yn y gyllideb gofal cymdeithasol erbyn 2030/31. Ar yr un pryd, gall 15 miliwn o swyddi – hyd at ddau draean o’r swyddi presennol – fod mewn perygl o gael eu colli i beiriannau.

Mae awduron yr adroddiad yn pryderu mai canlyniad hyn i gyd fydd rhagor o anghydraddoldeb, gydag incwm teuluoedd ar incwm uchel yn cynyddu 11 gwaith yn gyflymach na’r rheini ar incwm isel.

‘Twf isel’

“Mae’r Deyrnas Unedig yn debygol o gael ei dal yn ôl gan dwf isel dros y ddegawd nesaf,” rhybuddia’r adroddiad.

“Oni chaiff ei diwygio, bydd ein system wleidyddol a chymdeithasol yn ei chael hi’n anodd adeiladu cymdeithas iachach a mwy democrataidd wrth i Brexit ein cyflymu ni at dirwedd sefydliadol gwahanol iawn.

“Ni fydd gwleidyddiaeth o hiraeth am y gorffennol, ceidwadaeth sefydliadol ac o amddiffyn conglfeini democratiaeth cymdeithasol yr 20fed ganrif yn ddigonol.

“Byddai hynny’n gyfystyr ag amddiffyn cestyll tywod yn erbyn llanw hanes.”