Vladimir Putin, arlywydd Rwsia
Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi gofyn i lywodraeth ei wlad rwystro gwerthu rhai mathau o alcohol – wedi i 61 o bobol farw o ganlyniad i gael eu gwenwyno yn ninas Irkutsk yn Siberia.
Fe fu farw’r yfwyr o ganlyniad uniongyrchol i yfed hylif i’w ddefnyddio mewn bath.
Roedd y poteli’n cario rhybudd i beidio â’i yfed, gan mai ar gyfer defnydd oddi allan i’r corff yr oedd, ond roedd y labeli yn dweud fod y poteli’n cynnwys ethyl alcohol yn hytrach na methanol, sy’n farwol o’i yfed.
Mae 40 o bobol eraill yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae Vladimir Putin wedi cyhoeddi gorchymyn sy’n rhwystro prynu a gwerthu unrhyw hylif sy’n cynnwys mwy na 25% o alcohol.