Mae’r heddlu yn Berlin yn chwilio am ddyn o Diwnisia mewn perthynas â’r ymosodiad ar y ddinas nos Lun, pan gafodd 12 o bobol eu lladd mewn marchnad.
Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd Der Spiegel, cafodd dogfennau eu darganfod o dan sedd y gyrrwr
‘Anis A’ yw’r enw sydd wedi cael ei gyhoeddi, ac mae lle i gredu iddo gael ei eni yn 1992, a’i fod yn cael ei adnabod wrth ddau enw arall hefyd.
Hyd yma, mae ceisiwr lloches 23 oed o Bacistan wedi cael ei arestio a’i ryddhau heb gyhuddiad, ac mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Cafodd gyrrwr Pwylaidd y lori ei saethu’n farw cyn yr ymosodiad ar y farchnad.